Mae fy ymarfer artistig yn archwilio’r thema o ffiniau a chyfyngiadau deddfu drwy strwythurau adeiladu sy’n awgrymu caethiwo ac yn ymgysylltu â’r syniad o symudedd a byrhoedledd. Mae fy ngwaith yn archwilio’r fformat rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys collage, ffotograffiaeth, cerfluniau a fideo . Mae buddiannau artistig amrywiol o fewn fy ymarfer yn cael eu hamlygu yn rheolaidd trwy gyd-destun gosodiad sydd yn safle-benodol ac yn mynd i’r afael â’r paramedrau pensaernïol ac esthetig y gwagle yn y arddangos, mewn modd fydd yn ennyn ac yn cyfleu’r prif bryderon yn fy ngwaith. Mae’r pryderon hyn yn faterion goddrychol yn bennaf o amgylch dadleoliad, ymddygiad dynol, awydd, dyheadau, gwrthdaro a gwrthddywediadau. Yn fy ngwaith Rwy’n defnyddio deunyddiau sy’n cyfeirio at y llafur gwrywaidd ac benywaidd fel bagiau tywod gwrthrychau domestig a dillad merched, signalau yn gwrthdroad o’r canfyddiad traddodiadol o rolau rhywedd, hunaniaeth a lleoliadau.Mae chwarae rhwng deunyddiau chaled a meddal yn gwasanaethu fel atgof parhaol o freuder y corff a’i ymdrech i symud tu hwnt i rwystrau a osodir gan fannau gwahanol, sefydliadau, ideolegau neu ei fethiannau ei hun.